Dinas frodorol ym Mecsico oedd Teotihuacan (o'r Nahwatleg Teōtihuácān, "lle i wneud duwiau"). Hi oedd dinas fwaf poblog canolbarth America yn y cyfnod cyn y goncwest Sbaenaidd. Ar ei huchafbwynt, roedd y boblogaeth rhwng 150,000 a 200,000.
Saif Teotihuacán 40 km i'r gogledd-ddwyrain o Ddinas Mecsico, gerllaw trefi San Juan Teotihuacan a San Martín de las Pirámides, yn nhalaith Mecsico. Blodeuodd y ddinas yn y canrifoedd hyd at tua 600 OC; erbyn yr 8g roedd y trigolion wedi ymadael. Nid oes sicrwydd o ba grŵp ethnig yr oedd y preswylwyr.
Dynodwyd y safle yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1987. Caiff fwy o ymweliadau gan dwristiaid nag unrhyw safle archaeolegol arall ym Mecsico.
Photographies by:
Statistics: Position (field_position)
2482
Statistics: Rank (field_order)
82861
Ychwanegu sylw newydd