Türkiye

( Twrci )

Context of Twrci

Pwnc yr erthygl hon yw'r wlad ar lan ddwyreiniol y Môr Canoldir. Gweler Twrci (aderyn) am wybodaeth ar yr aderyn.

Gweriniaeth yn Ewrop ac Asia yw Gweriniaeth Twrci neu Twrci (Twrceg: Türkiye Cumhuriyeti, Cwrdeg: Komara Tirkiyê). Cyn 1922 yr oedd y wlad yn gartref i Ymerodraeth yr Otomaniaid. Mae Twrci wedi'i lleoli rhwng y Môr Du a Môr y Canoldir. Y gwledydd cyfagos yw Georgia, Armenia, Aserbaijan ac Iran i'r dwyrain, Irac a Syria i'r de a Gwlad Groeg a Bwlgaria i'r gorllewin. Poblogaeth Twrci, yn ôl y cyfrfiad diwethaf oedd 83,614,362 (2020). Ankara yw prifddinas y wlad.

Roedd yr ardal a adnabyddir fel Twrci heddiw yn un o ranbarthau cynharafa mwyaf sefydlog y byd, wedi cartrefu safleoedd Oes Newydd y Cerrig (Neolithig) pwysig fel Göbekli Tepe, ac roedd gwareiddiadau hynafol fel yr Hattiaid, pobloedd Anatolaidd eraill a Groegiaid Mycenaeaidd yn byw ynddo. Goresgynnodd Alecsander Fawr yr ardal, cyfnod a ystyrir ...Darllen mwy

Pwnc yr erthygl hon yw'r wlad ar lan ddwyreiniol y Môr Canoldir. Gweler Twrci (aderyn) am wybodaeth ar yr aderyn.

Gweriniaeth yn Ewrop ac Asia yw Gweriniaeth Twrci neu Twrci (Twrceg: Türkiye Cumhuriyeti, Cwrdeg: Komara Tirkiyê). Cyn 1922 yr oedd y wlad yn gartref i Ymerodraeth yr Otomaniaid. Mae Twrci wedi'i lleoli rhwng y Môr Du a Môr y Canoldir. Y gwledydd cyfagos yw Georgia, Armenia, Aserbaijan ac Iran i'r dwyrain, Irac a Syria i'r de a Gwlad Groeg a Bwlgaria i'r gorllewin. Poblogaeth Twrci, yn ôl y cyfrfiad diwethaf oedd 83,614,362 (2020). Ankara yw prifddinas y wlad.

Roedd yr ardal a adnabyddir fel Twrci heddiw yn un o ranbarthau cynharafa mwyaf sefydlog y byd, wedi cartrefu safleoedd Oes Newydd y Cerrig (Neolithig) pwysig fel Göbekli Tepe, ac roedd gwareiddiadau hynafol fel yr Hattiaid, pobloedd Anatolaidd eraill a Groegiaid Mycenaeaidd yn byw ynddo. Goresgynnodd Alecsander Fawr yr ardal, cyfnod a ystyrir fel dechrau'r cyfnod Helenistaidd, mae'r rhan fwyaf o'r rhanbarthau hynafol yn Nhwrci fodern o'r diwylliant hwn, a oedd yn parhau yn ystod y cyfnod Bysantaidd. Dechreuodd y Twrciaid Seljuk fudo yn yr 11g, a bu Sultaniaeth Rum yn rheoli Anatolia tan oresgyniad y Mongol ym 1243, pan holltodd yn nifer o dywysogaethau Twrcaidd bychan.

Mae Twrci yn bwer rhanbarthol ac yn wlad sydd newydd ei diwydiannu, gyda lleoliad strategol geopolitaidd. Disgrifir ei heconomi fel un sy'n dod i'r amlwg ac sy'n arwain twf, a hi yw'r ugeinfed fwyaf yn y byd yn ôl CMC enwol, a'r 11fed mwyaf gan PPP. Mae'n aelod siarter o'r Cenhedloedd Unedig, yn aelod cynnar o NATO, yr IMF, a Banc y Byd, ac yn aelod sefydlol o'r OECD, OSCE, BSEC, OIC, a'r G20. Ar ôl dod yn un o aelodau cynnar Cyngor Ewrop ym 1950, daeth Twrci yn aelod cyswllt o'r EEC ym 1963, ymunodd ag Undeb Tollau'r UE ym 1995, a dechrau trafodaethau derbyn gyda'r Undeb Ewropeaidd yn 2005.

Phrasebook

Helo
Merhaba
Byd
Dünya
Helo Byd
Selam Dünya
Diolch
Teşekkürler
Oes
Evet
Nac ydw
Numara
Sut wyt ti?
Nasılsınız?
Iawn diolch
İyiyim teşekkürler
Faint yw e?
Ne kadar?
Sero
Sıfır
Un
Bir
Dau
İki

Where can you sleep near Twrci ?

Booking.com

More images

Videos

12.688 visits today, 307 Destinations, 5.904 Points of interest, 187.759 visits in total.