Aconcagua

Aconcagua yn Ariannin yw'r mynydd uchaf yn yr Andes, y mynydd uchaf ar gyfandir America a'r mynydd uchaf yn y byd tu allan i Asia.

Mae'r mynydd yn 6,962 medr o uchder. I'r gogledd a'r dwyrain iddo mae'r Valle de las Vacas ac i'r gorllewin a'r de y Valle de los Horcones. Oherwydd ei uchder, mae eira parhaol arno. Saif y mynydd ym Mharc Rhanbarthol Aconcagua, ac mae'n nôd poblogaidd iawn i ddringwyr.

Ni yw ystyr yr enw yn glir, efallai o'r iaith Arawcaneg neu mapudungun Aconca-Hue neu o'r Quechua Ackon Cahuak.

Gellir dringo'r mynydd yn weddol hawdd o'r gogledd, lle nad oes angen offer dringo technegol er bod effeithiau yr uchder yn broblem a gall y tywydd newid yn sydyn iawn. Mae'r ail ffordd o'i ddringo, sef ar draws glasier los Polacos o'r Valle de las Vacas, yn anoddach a mwy peryglus. O'r de a'r de-orllewin mae'r mynydd yn anodd iawn ei ddringo; mae'r wyneb deheuol yn un o'r rhai anoddaf yn y byd, gyda 3,000 medr o ddringo. Dringwyd yr wyn...Darllen mwy

Aconcagua yn Ariannin yw'r mynydd uchaf yn yr Andes, y mynydd uchaf ar gyfandir America a'r mynydd uchaf yn y byd tu allan i Asia.

Mae'r mynydd yn 6,962 medr o uchder. I'r gogledd a'r dwyrain iddo mae'r Valle de las Vacas ac i'r gorllewin a'r de y Valle de los Horcones. Oherwydd ei uchder, mae eira parhaol arno. Saif y mynydd ym Mharc Rhanbarthol Aconcagua, ac mae'n nôd poblogaidd iawn i ddringwyr.

Ni yw ystyr yr enw yn glir, efallai o'r iaith Arawcaneg neu mapudungun Aconca-Hue neu o'r Quechua Ackon Cahuak.

Gellir dringo'r mynydd yn weddol hawdd o'r gogledd, lle nad oes angen offer dringo technegol er bod effeithiau yr uchder yn broblem a gall y tywydd newid yn sydyn iawn. Mae'r ail ffordd o'i ddringo, sef ar draws glasier los Polacos o'r Valle de las Vacas, yn anoddach a mwy peryglus. O'r de a'r de-orllewin mae'r mynydd yn anodd iawn ei ddringo; mae'r wyneb deheuol yn un o'r rhai anoddaf yn y byd, gyda 3,000 medr o ddringo. Dringwyd yr wyneb deheuol am y tro cyntaf yn 1954 gan griw o ddringwyr o Ffrainc. Y cyntaf i ddringo'r mynydd oedd criw gan arweiniad y Prydeiniwr Edward Fitzgerald yn 1897, pan gyrhaeddodd Mathias Zurbriggen o'r Swistir y copa ar 14 Ionawr. Dringwyd y mynydd gan frodor o Ariannin ei hun am y tro cyntaf yn 1934 pan gyrhaeddodd Nicolás Plantamura y copa, a'r wraig gyntaf i'w ddringo oedd Adriana Bance o Ffrainc yn 1940.

Photographies by:
Statistics: Position (field_position)
354
Statistics: Rank (field_order)
150087

Ychwanegu sylw newydd

Esta pregunta es para comprobar si usted es un visitante humano y prevenir envíos de spam automatizado.

Security
869147253Click/tap this sequence: 2553

Google street view

Where can you sleep near Aconcagua ?

Booking.com
455.291 visits in total, 9.077 Points of interest, 403 Destinations, 293 visits today.